Y gwasanaeth teledestun o Satellaview+
SatellaText yw'r gwasanaeth teledestun swyddogol o Satellaview+, ac yn cwblhau
triongl y teulu o wasanaethau Satellaview+. Mae SatellaText (neu SatTXT i byr) yn cynnwys
llawer o dudalennau wybodaeth, gan gynnwys amserlenni, newyddion, cwisiau, erthyglau, a
hyd yn oed gemau! Ac mae SatTXT ar agor ac yn rhad ac am ddim i unrhyw un edrych arno -
y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw ffordd i weld tudalennau teledestun internet.
Satellaview+ yw gwasanaeth lawrlwytho ffynhonnell-gaeedig, rhad ac am
ddim, sy'n anelu at adfywio'r gwasanaeth BS-X ar gyfer dyfais Satellaview y Super Famicom.
Roedd y Satellaview yn caniatáu i berchnogion SFC gael mynediad at ddarllediadau cynnwys
pwrpasol dros systemau BS (broadcast satellite/lloeren darlledu).
Roedd y gwasanaeth BS-X ar gael yn syth o'r bocs, gan fod y feddalwedd wedi'i bwndelu efo'r
modem Satellaview. Gan ddefnyddio'r cetris hwn, gallai tanysgrifwyr lawrlwytho demos gemau,
cylchgronau, a mwy.
Lansiwyd y gwasanaeth BS-X ochr-yn-ochr â Satellaview ar 23ain Ebrill, 1995. Fe'i
rhyddhawyd mewn partneriaeth â'r darlledwr radio lloeren St.GIGA, ac roedd ganddo dros
100,000 danysgrifwr (ym mis Mawrth 1997). Fodd bynnag, arweiniodd problemau ariannol ar ran
St.GIGA, yn ogystal â diffyg trwydded ddarlledu, ynghyd â rhyddhau'r Nintendo 64, at gau'r
gwasanaeth yn derfynol yn oriau mân 30ain Mehefin, 2000.
Mae'n syndod o syml. Mae'r cyfarwyddiadau ar gael ar y dudalen hon.