Welcome to SatellaText | Croeso i SatellaText | サテレテクストようこそ | Bienvenue à SatellaText | Bem-vindo ao SatellaText | Bienvenido a SatellaText | Wilkommen bei SatellaText | 欢迎来到 SatellaText | SatellaText 에 오신 것을 환영합니다 |
SatellaText Logo

SatellaText

Y gwasanaeth teledestun o Satellaview+






Canllaw Gosod SatellaText

Mae'r canllaw hwn wedi'i rannu'n sawl adran, gyda phob un yn ymdrin â dull gwahanol o sefydlu a defnyddio'r gwasanaeth SatellaText. Isod mae tabl cynnwys.

Raspberry Pi (Teledu)

Mae'r adran hon ar sut i sefydlu SatellaText ar system Raspberry Pi, gan ddefnyddio set deledu sy'n gallu trin signalau analog. Bydd hyn yn caniatáu ichi ryngweithio â'r gwasanaeth teledestun efo rheolydd o bell. Bydd angen y canlynol arnoch:

Sylwch nad yw'r Model 5, 400, a 500 yn cael eu cefnogi, gan nad oes gan y rhain allbwn fideo cyfansawdd. Cofiwch hefyd, ar Pi Zero, y bydd angen i chi sodro pennawd pin (Zero), neu'r cebl fideo ei hun (Zero 2) i'ch Pi i gael mynediad at y pinnau/padiau allbwn fideo cyfansawdd. COFIWCH MAI DIM OND EFO SET DELEDU PAL Y PYDD HYN YN GWEITHIO!

Y cam cyntaf yw gosod VBIT2 ar eich Pi. Ar ôl cychwyn i mewn i system weithredu Raspberry Pi OS, bydd angen i chi gysylltu â'r Internet, gan ddefnyddio Ethernet, Wi-Fi, neu ba bynnag ddull rydych chi'n ei ddefnyddio. Wedyn, agorwch ffenestr derfynell a theipiwch y gorchymyn canlynol: wget https://raw.githubusercontent.com/peterkvt80/vbit2/master/getvbit2
a fydd yn lawrlwytho'r sgript gosod. Wedyn rhedeg ef efo'r gorchymyn hwn:
bash getvbit2

Ar ôl gosog y rhaglen, bydd yr offeryn ffurfweddu VBIT2 yn cychwyn. Dewiswch yr opsiwn cyntaf, [1 Install service], a gosodwch unrhyw wasanaethau eraill rydych chi eisiau eu defnyddio ochr yn och â SatellaText. I osod SatellaText ei hun, dewiswch [1 Install service], yna dewiswch yr opsiwn olaf, [C Custom service], ac yn olaf, dewiswch, [G Git repository]. Wedyn, teipiwch y ddolen i'r storfa SatTXT:
https://github.com/real-kami-kun/SatellaText-Plus.git
a gosodwch enw'r gwasanaeth i "SatellaText".

Unwaith yn ôl yn y brif ddewislen, gwnewch yn siŵr bod SatTXT wedi'i ddewis, wedyn, gadael yr offeryn ffurfweddu. Bydd angen i chi ailgychwyn eich Pi, a newid i'r allbwn fideo cyfansawdd. Ose byddwch chi'n dod ar draws unrhyw fath o anomaleddau efo'r signal fideo (h.y. fideo gwrthdro neu ddim fideo, a/neu sŵn yn y signal sain, ac ati), yna nid yw eich ceblau fideo yn gydnaws.
Ar ôl ailgychwyn, agorwch y derfynell a theipiwch vbit-config i gychwyn yr offeryn ffurfweddu. Dewiswch, [V Start VBIT2]. Os yw popeth yn gywir, dylech allu pwyso'r botwn TEXT (Teletext button icon), a dylai tudalen gartre SatellaText lwytho ar ôl eiliad neu ddwy. Rŵan gallwch ddechrau pori ac archwilio beth sydd gan y swasanaeth i'w gynnig! Mwynhewch!

Raspberry Pi (Mewn golwg)

Mae'r adran hon ar gyfer sut i sefydlu SatellaText ar system Raspberry Pi, fel porthiant fideo mewn-golwg. Bydd hyn yn caniatáu ichi ddefnyddio'r gwasanaeth efo Pi ar unrhyw arddangosfa, a'i reoli gyda bysellfwrdd.
NODYN: Yn wahanol i'r dull teledu, bydd yr un hon yn gweithio ar unrhyw Pi, gan gynnwys y Modelau 5 ac x00.

Yn gyntaf, sefydlwch VBIT2 fel soniwyd yn y dull teledu.
Byddwch chi eisiau gosod SatTXT ac unrhyw wasanaethau eraill rydych chi eu heisiau. Fodd bynnag, byddwch chi eisiau mynd i mewn i'r ddewislen [O Options], a dad-dicio "Run VBIT2 automatically at boot", os yw wedi'i dicio.
PEIDIWCH Â RHEDEG VBIT2 NEU EI OSOD I REDEG WRTH GYCHWYN!

Nesa, mae'n bryd sefydlu VBIT-IV, yr estyniad mewn-golwg i VBIT2. Gadewch vbit-config a theipiwch:
git clone https://github.com/peterkvt80/vbit-iv.git
Unwaith y bydd y storfa wedi'i chlonio, bydd angen i chi sicrhau bod Python 3 wedi'i osod, ac ar ôl hynny gallwch chi osod rhai pecynnau ychwanegol sydd eu hangen, gan ddefnyddio'r gorchymynion canlynol:
pip3 install screeninfo
pip3 install readchar
pip3 install zmq
cd vbit-iv
sudo cp *.ttf /usr/local/share/fonts
Os ydych chi eisiau rheolaeth bysellfwrdd, agorwch ail ffenestr derfynell yn yr un ffolder a theipiwch:
./vbit-remote
Bydd hyn yn caniatáu i fewnbwn bysellfwrdd gael ei basio i VBIT. Yn y ffenestr gyntaf, rhedwch: ./innervision.py
i redeg VBIT-IV. Efallai y bydd yn rhaid i chi Alt+Tabio i'r ail ffenestr i gael eich mewnbynnau bysellfwrdd i gofrestru. Mwynhewch!
NODYN: Pwyswch Ctrl + C i adael VBIT-IV.

Windows (BeebEm)

Am gyfarwyddiadau, dilynwch y canllaw hwn (yn Saesneg).